1 Timotheus 6:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Ond yr wyt ti, ŵr Duw, i ffoi rhag y pethau hyn, ac i roi dy fryd ar uniondeb, duwioldeb, ffydd, cariad, dyfalbarhad ac addfwynder.

12. Ymdrecha ymdrech lew y ffydd, a chymer feddiant o'r bywyd tragwyddol. I hyn y cefaist dy alw pan wnaethost dy gyffes lew o'r ffydd o flaen tystion lawer.

13. Yng ngŵydd Duw, sy'n rhoi bywyd i bob peth, ac yng ngŵydd Crist Iesu, a dystiodd i'r un gyffes lew o flaen Pontius Pilat, yr wyf yn dy gymell

14. i gadw'r gorchymyn yn ddi-fai a digerydd hyd at ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist,

1 Timotheus 6