1 Timotheus 5:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Ond pwy bynnag nad yw'n darparu ar gyfer ei berthnasau, ac yn arbennig ei deulu ei hun, y mae wedi gwadu'r ffydd ac y mae'n waeth nag anghredadun.

9. Ni ddylid rhoi gwraig ar restr y gweddwon os nad yw dros drigain oed, ac a fu'n wraig i un gŵr.

10. A rhaid cael prawf iddi ymroi i weithredoedd da: iddi fagu plant, iddi roi llety i ddieithriaid, iddi olchi traed y saint, iddi gynorthwyo pobl mewn cyfyngder, yn wir iddi ymdaflu i bob math o weithredoedd da.

11. A phaid â chynnwys y rhai iau ar restr y gweddwon, oherwydd cyn gynted ag y bydd eu nwydau yn eu dieithrio oddi wrth Grist, daw arnynt chwant priodi,

12. a chânt eu condemnio felly am dorri'r adduned a wnaethant ar y dechrau.

1 Timotheus 5