1 Timotheus 3:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. A dylent ddal eu gafael ar ddirgelwch y ffydd gyda chydwybod bur.

10. Dylid eu rhoi hwythau ar brawf ar y cychwyn, ac yna, o'u cael yn ddi-fai, caniatáu iddynt wasanaethu.

11. Yn yr un modd dylai eu gwragedd fod yn weddus, yn ddiwenwyn, yn sobr, ac yn ffyddlon ym mhob dim.

12. Rhaid i bob diacon fod yn ŵr i un wraig, a chanddo reolaeth dda ar ei blant a'i deulu ei hun.

13. Oherwydd y mae'r rhai a gyflawnodd waith da fel diaconiaid yn ennill iddynt eu hunain safle da, a hyder mawr ynglŷn â'r ffydd sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu.

1 Timotheus 3