1 Timotheus 3:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Yn yr un modd dylai eu gwragedd fod yn weddus, yn ddiwenwyn, yn sobr, ac yn ffyddlon ym mhob dim.

12. Rhaid i bob diacon fod yn ŵr i un wraig, a chanddo reolaeth dda ar ei blant a'i deulu ei hun.

13. Oherwydd y mae'r rhai a gyflawnodd waith da fel diaconiaid yn ennill iddynt eu hunain safle da, a hyder mawr ynglŷn â'r ffydd sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu.

14. Yr wyf yn gobeithio dod atat cyn hir, ond rhag ofn y caf fy rhwystro, yr wyf yn ysgrifennu'r llythyr hwn atat,

15. er mwyn iti gael gwybod sut y mae ymddwyn yn nheulu Duw, sef eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd.

16. A rhaid inni'n unfryd gyffesu mai mawr yw dirgelwch ein crefydd:“Ei amlygu ef mewn cnawd,ei gyfiawnhau yn yr ysbryd,ei weld gan angylion,ei bregethu i'r Cenhedloedd,ei gredu drwy'r byd,ei ddyrchafu mewn gogoniant.”

1 Timotheus 3