1 Thesaloniaid 5:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Bydded i Dduw'r tangnefedd ei hun eich sancteiddio chwi yn gyfan gwbl, a chadw eich ysbryd a'ch enaid a'ch corff yn gwbl iach a di-fai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist!

24. Y mae'r hwn sy'n eich galw yn ffyddlon, ac fe gyflawna ef hyn.

25. Gyfeillion, gweddïwch drosom ninnau.

26. Cyfarchwch y cyfeillion i gyd â chusan sanctaidd.

27. Yn enw'r Arglwydd, parwch ddarllen y llythyr hwn i'r holl gynulleidfa.

28. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi!

1 Thesaloniaid 5