1 Thesaloniaid 4:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Gan hynny, y mae'r sawl sydd yn diystyru hyn yn diystyru neb ond Duw, yr hwn sy'n rhoi ei Ysbryd Glân i chwi.

9. Ynglŷn â chariad at eich gilydd, nid oes arnoch angen i neb ysgrifennu atoch; oherwydd yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd.

10. Ac yn wir, yr ydych yn gwneud hyn i bawb o'r credinwyr trwy Facedonia gyfan; ond yr ydym yn eich annog, gyfeillion, i ragori fwyfwy:

11. i roi eich bryd ar fyw yn dawel, a dilyn eich gorchwylion eich hunain, a gweithio â'ch dwylo eich hunain, fel y gorchmynasom ichwi.

12. Felly byddwch yn ymddwyn yn weddaidd yng ngolwg y rhai sydd y tu allan, ac ni fydd angen dim arnoch.

13. Yr ydym am ichwi wybod, gyfeillion, am y rhai sydd yn huno, rhag ichwi fod yn drallodus, fel y rhelyw sydd heb ddim gobaith.

1 Thesaloniaid 4