1 Samuel 8:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Eto nid oedd y meibion yn cerdded yn llwybrau eu tad, ond yn ceisio elw, yn derbyn cildwrn ac yn gwyro barn.

4. Felly cyfarfu holl henuriaid Israel, a mynd at Samuel i Rama,

5. a dweud wrtho, “Yr wyt ti wedi mynd yn hen, ac nid yw dy feibion yn cerdded yn dy lwybrau di; rho inni'n awr frenin i'n barnu, yr un fath â'r holl genhedloedd.”

1 Samuel 8