1 Samuel 7:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ac wedi iddynt ymgasglu i Mispa, a thynnu dŵr a'i arllwys gerbron yr ARGLWYDD, gwnaethant ympryd yno y diwrnod hwnnw a dweud, “Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.” Yn Mispa yr oedd Samuel yn barnu Israel.

7. Pan glywodd y Philistiaid fod Israel wedi dod ynghyd i Mispa, daeth arglwyddi'r Philistiaid i fyny yn erbyn Israel. Clywodd Israel hynny, a daeth arnynt ofn y Philistiaid, ac meddent wrth Samuel,

8. “Gweddïa'n ddi-baid drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw iddo'n gwaredu ni o law'r Philistiaid.”

9. Cymerodd Samuel oen sugno a'i offrymu'n boethoffrwm cyfan i'r ARGLWYDD; gweddïodd ar yr ARGLWYDD dros Israel, ac atebodd yr ARGLWYDD ef.

10. Y diwrnod hwnnw, fel yr oedd Samuel yn offrymu'r poethoffrwm, a'r Philistiaid yn nesáu i ymladd ag Israel, cododd yr ARGLWYDD storm daranau yn erbyn y Philistiaid a'u drysu, a gyrrwyd hwy ar ffo o flaen Israel.

11. Yna aeth gwŷr Israel allan o Mispa, ac erlid y Philistiaid a'u taro nes dod islaw Beth-car.

12. Yna cymerodd Samuel faen, a'i osod rhwng Mispa a Sên a'i alw'n Ebeneser, a dweud, “Hyd yma y cynorthwyodd yr ARGLWYDD ni.”

1 Samuel 7