1 Samuel 7:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna daeth gwŷr Ciriath-jearim a chyrchu arch yr ARGLWYDD, a'i dwyn atynt i dŷ Abinadab ar y bryn, a chysegru ei fab Eleasar i gadw arch yr ARGLWYDD.

2. Aeth llawer o amser heibio, tuag ugain mlynedd, er pan ddaeth yr arch i aros yn Ciriath-jearim, ac yr oedd holl dŷ Israel yn hiraethu am yr ARGLWYDD.

1 Samuel 7