1 Samuel 5:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Bu llaw'r ARGLWYDD yn drwm ar yr Asdodiaid. Parodd arswyd ar Asdod a'i chyffiniau, a'u taro â chornwydydd.

7. Pan welodd gwŷr Asdod mai felly'r oedd, dywedasant, “Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni, oherwydd y mae ei law yn drwm arnom ni ac ar ein duw Dagon.”

8. Wedi iddynt anfon a chasglu atynt holl arglwyddi'r Philistiaid, gofynasant, “Beth a wnawn ag arch Duw Israel?” Atebasant hwythau, “Aed arch Duw Israel draw i Gath.” Felly aethant ag arch Duw Israel yno.

9. Ond wedi iddynt fynd â hi yno, bu llaw'r ARGLWYDD ar y ddinas a pheri difrod mawr iawn, trawyd pobl y ddinas yn hen ac ifainc, a thorrodd y cornwydydd allan arnynt hwythau.

10. Anfonasant arch Duw i Ecron, ond pan gyrhaeddodd yno, cwynodd pobl Ecron, “Y maent wedi dod ag arch Duw Israel atom ni i'n lladd ni a'n teuluoedd.”

11. Felly anfonasant i gasglu ynghyd holl arglwyddi'r Philistiaid a dweud, “Anfonwch arch Duw Israel yn ôl i'w lle ei hun, rhag iddi'n lladd ni a'n teuluoedd.”

1 Samuel 5