5. Pan gyrhaeddodd arch cyfamod yr ARGLWYDD i'r gwersyll, gwaeddodd yr Israeliaid i gyd â bloedd uchel nes bod y ddaear yn datseinio.
6. Clywodd y Philistiaid y floedd a gofyn, “Beth yw'r floedd fawr hon a glywir yng ngwersyll yr Hebreaid?” Wedi iddynt ddeall mai arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd wedi cyrraedd i'r gwersyll,
7. ofnodd y Philistiaid, oherwydd dweud yr oeddent, “Daeth duw i'r gwersyll.” Ac meddent, “Gwae ni! Oherwydd ni fu peth fel hyn erioed o'r blaen.
8. Gwae ni! Pwy a'n gwared ni o law'r duwiau nerthol hyn? Dyma'r duwiau a drawodd yr Eifftiaid â phob math o bla yn yr anialwch.
9. Byddwch yn gryf a gwrol, O Philistiaid, rhag i chwi fynd yn gaeth i'r Hebreaid fel y buont hwy i chwi; ie, byddwch yn wrol ac ymladd.”
10. Ymladdodd y Philistiaid, a threchwyd Israel, a ffodd pawb adref. Bu lladdfa fawr iawn, a syrthiodd deng mil ar hugain o wŷr traed Israel.
11. Hefyd cymerwyd arch Duw, a bu farw Hoffni a Phinees, dau fab Eli.
12. Y diwrnod hwnnw rhedodd un o wŷr Benjamin o'r frwydr a chyrraedd Seilo â'i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben.
13. Pan ddaeth, dyna lle'r oedd Eli yn eistedd ar sedd gerllaw'r ffordd yn disgwyl, am ei fod yn bryderus iawn am arch Duw. Pan ddaeth y dyn a chyhoeddi'r newydd yn y ddinas, bu llefain drwy'r ddinas.
14. A phan glywodd Eli sŵn y llefain, holodd, “Beth yw'r cynnwrf yma?” Yna brysiodd y dyn, a dod ac adrodd yr hanes wrth Eli.
15. Yr oedd Eli'n naw deg ac wyth oed, a'i lygaid wedi pylu fel na fedrai weld.