1 Samuel 31:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Daliodd y Philistiaid Saul a'i feibion, a lladd Jonathan, Abinadab a Malcisua, meibion Saul.

3. Aeth y frwydr yn galed yn erbyn Saul; daeth y dynion oedd yn saethu â bwâu o hyd iddo, a chlwyfwyd ef yn ddifrifol gan y saethwyr.

4. Yna dywedodd Saul wrth ei gludydd arfau, “Tyn dy gleddyf a thrywana fi, rhag i'r rhai dienwaededig hyn ddod a'm trywanu a'm gwaradwyddo.” Nid oedd ei gludydd arfau'n fodlon, oherwydd yr oedd ofn mawr arno; felly cymerodd Saul y cleddyf a syrthio arno.

1 Samuel 31