1 Samuel 31:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Rhoesant ei arfau yn nheml Astaroth, a chrogi ei gorff ar fur Beth-sean.

11. Pan glywodd trigolion Jabes-gilead beth oedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul,

12. aeth pob rhyfelwr ohonynt ar unwaith liw nos a chymryd corff Saul a chyrff ei feibion oddi ar fur Beth-sean, a'u cludo i Jabes a'u llosgi yno.

13. Yna cymerasant eu hesgyrn a'u claddu dan y dderwen yn Jabes, ac ymprydio am saith diwrnod.

1 Samuel 31