1 Samuel 30:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Cychwynnodd Dafydd a'r chwe chant o filwyr oedd gydag ef, a dod i nant Besor, lle'r arhosodd rhai.

10. Aeth Dafydd a phedwar cant ohonynt yn eu blaen, ond arhosodd dau gant ar ôl am eu bod yn rhy flinedig i groesi nant Besor.

11. Daethant ar draws rhyw Eifftiwr allan yn y wlad, ac wedi dod ag ef at Ddafydd, rhoesant iddo fwyd i'w fwyta a dŵr i'w yfed.

1 Samuel 30