1 Samuel 3:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yna galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel. Dywedodd yntau, “Dyma fi.” Rhedodd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn galw arnaf.”

5. Atebodd ef, “Nac oeddwn, dos yn ôl i orwedd.” Aeth yntau a gorwedd.

6. Yna galwodd yr ARGLWYDD eto, “Samuel!” Cododd Samuel a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn fy ngalw.” Ond dywedodd ef, “Nac oeddwn, fy machgen, dos yn ôl i orwedd.”

7. Yr oedd hyn cyn i Samuel adnabod yr ARGLWYDD, a chyn bod gair yr ARGLWYDD wedi ei ddatguddio iddo.

8. Galwodd yr ARGLWYDD eto'r drydedd waith, “Samuel!” A phan gododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn galw arnaf,” deallodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen.

9. Felly dywedodd Eli wrth Samuel, “Dos i orwedd, ac os gelwir di eto, dywed tithau, ‘Llefara, ARGLWYDD, canys y mae dy was yn gwrando’.” Aeth Samuel a gorwedd yn ei le.

10. Yna daeth yr ARGLWYDD a sefyll a galw fel o'r blaen, “Samuel! Samuel!” A dywedodd Samuel, “Llefara, canys y mae dy was yn gwrando.”

11. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Yr wyf ar fin gwneud rhywbeth yn Israel a fydd yn merwino clustiau pwy bynnag a'i clyw.

12. Y dydd hwnnw dygaf ar Eli y cwbl a ddywedais am ei dŷ, o'r dechrau i'r diwedd;

13. a dywedaf wrtho fy mod yn barnu ei dŷ am byth, oherwydd gwyddai fod ei feibion yn melltithio Duw, ac ni roddodd daw arnynt.

1 Samuel 3