1 Samuel 3:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Paid â'i chelu oddi wrthyf. Fel hyn y gwnelo Duw iti, a rhagor, os cuddi oddi wrthyf unrhyw beth a lefarodd ef wrthyt.”

18. Yna mynegodd Samuel y cyfan wrtho, heb gelu dim. Ac meddai yntau, “Yr ARGLWYDD yw; fe wna'r hyn sydd dda yn ei olwg.”

19. Tyfodd Samuel, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef; ni adawodd i'r un o'i eiriau fethu.

20. Sylweddolodd Israel gyfan, o Dan hyd Beerseba, fod Samuel wedi ei sefydlu'n broffwyd i'r ARGLWYDD.

21. A pharhaodd yr ARGLWYDD i ymddangos yn Seilo, oherwydd yno y'i datguddiodd ei hun i Samuel trwy ei air.

1 Samuel 3