1 Samuel 28:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ceisiodd Saul yr ARGLWYDD, ond nid oedd yr ARGLWYDD yn ateb trwy freuddwydion na bwrw coelbren na phroffwydi.

7. Yna dywedodd Saul wrth ei weision, “Chwiliwch am ddewines, imi ymweld â hi i ofyn ei chyngor.”

8. Dywedodd ei weision wrtho, “Y mae yna ddewines yn Endor.” Newidiodd Saul ei ymddangosiad, a gwisgo dillad gwahanol, ac aeth â dau ddyn gydag ef a dod at y ddynes liw nos a dweud, “Consuria imi trwy ysbryd, a dwg i fyny ataf y sawl a ddywedaf wrthyt.”

9. Dywedodd y ddynes wrtho, “Fe wyddost beth a wnaeth Saul, ei fod wedi difa'r dewiniaid a'r swynwyr o'r wlad; pam felly yr wyt ti'n ceisio fy rhwydo a'm lladd?”

10. Tyngodd Saul iddi yn enw'r ARGLWYDD, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni ddaw dim niwed iti o hyn.”

1 Samuel 28