1 Samuel 27:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Arhosodd Dafydd gydag Achis yn Gath, ef a'i ddynion a'u teuluoedd; a chyda Dafydd yr oedd ei ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gwraig Nabal o Garmel.

4. Pan ddywedwyd wrth Saul fod Dafydd wedi ffoi i Gath, rhoddodd yntau'r gorau i chwilio amdano.

5. Dywedodd Dafydd wrth Achis, “Os gweli'n dda, gad imi gael lle i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad. Pam y dylai dy was fyw yn y brifddinas gyda thi?”

1 Samuel 27