1 Samuel 27:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Meddyliodd Dafydd, “Rhyw ddiwrnod fe'm difethir trwy law Saul; y peth gorau i mi fydd dianc draw i wlad Philistia, fel na fydd gan Saul obaith dod o hyd imi yn unman o fewn cyrrau Israel; a byddaf yn ddiogel o'i gyrraedd.”

2. Felly cychwynnodd Dafydd, a'r chwe chant o ddynion oedd gydag ef, a mynd at Achis fab Maoch, brenin Gath.

3. Arhosodd Dafydd gydag Achis yn Gath, ef a'i ddynion a'u teuluoedd; a chyda Dafydd yr oedd ei ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gwraig Nabal o Garmel.

4. Pan ddywedwyd wrth Saul fod Dafydd wedi ffoi i Gath, rhoddodd yntau'r gorau i chwilio amdano.

5. Dywedodd Dafydd wrth Achis, “Os gweli'n dda, gad imi gael lle i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad. Pam y dylai dy was fyw yn y brifddinas gyda thi?”

6. Yr adeg honno rhoddodd Achis iddo Siclag, a dyna pam y mae Siclag yn perthyn i frenhinoedd Jwda hyd heddiw.

7. Am gyfnod o flwyddyn a phedwar mis y bu Dafydd yn byw yng nghefn gwlad Philistia.

8. Byddai Dafydd a'i filwyr yn mynd allan ac yn ymosod ar y Gesuriaid a'r Gersiaid a'r Amaleciaid (oherwydd hwy oedd yn preswylio'r wlad o Telam, ar y ffordd i Sur, hyd at yr Aifft).

9. Pan fyddai'n taro ardal, ni adawai'n fyw na dyn na dynes; a byddai'n cymryd defaid, gwartheg, asynnod, camelod a gwisgoedd, ac yna'n dychwelyd at Achis.

1 Samuel 27