1 Samuel 26:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Ond dywedodd Dafydd wrth Abisai, “Paid â'i ladd. Pwy a fedr estyn llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD a bod yn ddieuog?”

10. Ac ychwanegodd Dafydd, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, bydd yr ARGLWYDD yn sicr o'i daro; un ai fe ddaw ei amser, a bydd farw, neu ynteu fe â i frwydr a cholli ei fywyd.

11. Yr ARGLWYDD a'm gwaredo rhag i mi estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD. Cymer di y waywffon sydd wrth ei ben, a'i gostrel ddŵr, ac fe awn.”

12. Cymerodd Dafydd y waywffon a'r gostrel ddŵr oedd yn ymyl pen Saul, ac ymaith â hwy heb i neb weld na gwybod na deffro. Yr oedd pawb yn cysgu, am i'r ARGLWYDD anfon trymgwsg arnynt.

13. Dringodd Dafydd trwy'r bwlch a sefyll draw ar gopa'r mynydd, â chryn bellter rhyngddo a hwy.

1 Samuel 26