1 Samuel 26:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Gwrandawed f'arglwydd frenin yn awr ar eiriau ei was. Os yr ARGLWYDD sydd wedi dy annog i'm herbyn, derbynied offrwm; ond os bodau meidrol, bydded iddynt fod dan felltith gerbron yr ARGLWYDD, am iddynt fy ngyrru allan heddiw rhag cael fy rhan yn etifeddiaeth yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Dos, addola dduwiau eraill.’

20. Paid â gadael i'm gwaed ddisgyn i'r ddaear allan o bresenoldeb yr ARGLWYDD; oherwydd fe ddaeth brenin Israel allan i geisio chwannen, fel un yn hela petrisen mynydd.”

21. Ac meddai Saul, “Yr wyf ar fai; tyrd yn ôl, fy mab Dafydd, oherwydd ni wnaf niwed iti eto, am i'm bywyd fod yn werthfawr yn dy olwg heddiw. Bûm yn ynfyd, a chyfeiliornais yn enbyd.”

22. Yna atebodd Dafydd, “Dyma'r waywffon, O frenin; gad i un o'r llanciau ddod drosodd i'w chymryd.

23. Y mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl i bob un am ei gyfiawnder a'i ffyddlondeb; oherwydd fe roddodd yr ARGLWYDD di yn fy llaw heddiw, ond nid oeddwn am estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD.

24. Fel y bu dy einioes di yn werthfawr yn fy ngolwg i heddiw, bydded f'einioes innau yn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'm hachub o bob cyni.”

25. Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Bendith arnat, fy mab Dafydd; fe wnei di orchestion a llwyddo.” Wedi hynny aeth Dafydd i ffwrdd, a dychwelodd Saul adref.

1 Samuel 26