1 Samuel 26:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth y Siffiaid at Saul i Gibea a dweud, “Onid yw Dafydd yn llechu ym mryn Hachila gyferbyn â Jesimon?”

2. Aeth Saul ar unwaith i lawr i ddiffeithwch Siff, a thair mil o wŷr dewisol Israel gydag ef, i chwilio am Ddafydd yno.

3. Gwersyllodd Saul ar y briffordd ym mryn Hachila gyferbyn â Jesimon, tra oedd Dafydd yn aros yn yr anialwch.

1 Samuel 26