1 Samuel 25:40-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Daeth gweision Dafydd i Garmel at Abigail a dweud wrthi, “Y mae Dafydd wedi'n hanfon ni atat i'th gymryd yn wraig iddo.”

41. Ar unwaith ymgrymodd hithau i'r llawr a dweud, “Dyma fi, yn barod i olchi traed gweision f'arglwydd fel caethferch.”

42. Paratôdd Abigail ar unwaith i fynd, a marchogodd ar gefn asyn, gyda phump o'i morynion i'w chanlyn, a dilyn negeswyr Dafydd, a daeth yn wraig iddo.

43. Priododd Dafydd hefyd Ahinoam o Jesreel, a bu'r ddwy yn wragedd iddo.

44. Yr oedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, a fu'n wraig i Ddafydd, i Palti fab Lais, a oedd o Galim.

1 Samuel 25