11. Anfonodd y brenin am yr offeiriad Ahimelech fab Ahitub a'i deulu i gyd, a oedd yn offeiriaid yn Nob, a daethant oll at y brenin.
12. Ac meddai Saul, “Gwrando di yn awr, fab Ahitub.” Atebodd yntau, “Gwnaf, f'arglwydd.”
13. Yna dywedodd Saul wrtho, “Pam yr ydych wedi cynllwyn yn f'erbyn, ti a mab Jesse, a thithau'n rhoi bwyd a chleddyf iddo, yn ymofyn â Duw drosto, ac yn gadael iddo gynllwyn yn f'erbyn, fel y mae'n gwneud heddiw?”
14. Atebodd Ahimelech y brenin a dweud, “Pwy o blith dy holl weision sydd mor deyrngar â Dafydd, yn fab-yng-nghyfraith i'r brenin, ac yn bennaeth dy osgorddlu ac yn uchel ei barch yn dy blas?
15. Ai dyna'r tro cyntaf imi ymofyn â Duw drosto? Nage'n wir! Peidied y brenin â chyhuddo ei was, na'r un o'i deulu, oherwydd ni ŵyr dy was ddim am hyn, na bach na mawr.”
16. Dywedodd y brenin, “Yr wyt ti, Ahimelech, yn mynd i farw, ie, ti a'th holl deulu.”
17. Yna dywedodd y brenin wrth y gosgorddlu oedd yn sefyll yn ei ymyl, “Trowch arnynt a lladdwch offeiriaid yr ARGLWYDD, oherwydd y maent hwythau law yn llaw â Dafydd, am eu bod yn gwybod ei fod ar ffo, ond heb yngan gair wrthyf.” Ond ni fynnai gweision y brenin estyn llaw i daro offeiriaid yr ARGLWYDD.
18. Yna dywedodd y brenin wrth Doeg, “Tro di a tharo'r offeiriaid.” Fe droes Doeg a tharo'r offeiriaid; a'r diwrnod hwnnw fe laddodd bump a phedwar ugain o wŷr yn gwisgo effod liain.
19. Yn Nob hefyd, tref yr offeiriaid, trawodd â'r cleddyf wŷr a gwragedd, plant a babanod, a hyd yn oed ychen, asynnod a defaid.
20. Ond dihangodd un mab i Ahimelech fab Ahitub, o'r enw Abiathar; a ffodd at Ddafydd,
21. a dweud wrtho fod Saul wedi lladd offeiriaid yr ARGLWYDD.
22. Dywedodd Dafydd wrth Abiathar, “Mi wyddwn i y diwrnod hwnnw pan oedd Doeg yr Edomiad yno, y byddai'n sicr o ddweud wrth Saul. Myfi sy'n gyfrifol am farwolaeth dy deulu cyfan.
23. Aros gyda mi, paid ag ofni; oherwydd yr un sy'n ceisio d'einioes di sy'n ceisio f'einioes innau. Byddi'n ddiogel gyda mi.”