1 Samuel 21:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Gofynnodd gweision Achis iddo, “Onid hwn yw Dafydd, brenin y wlad? Onid am hwn y maent yn canu wrth ddawnsio,“ ‘Lladdodd Saul ei filoedd,a Dafydd ei fyrddiynau’?”

12. Cymerodd Dafydd y geiriau hyn at ei galon, ac ofnodd rhag Achis brenin Gath.

13. Newidiodd ei ymddygiad o'u blaen, a dechrau ymddwyn fel ynfytyn yn eu mysg, a chripio drysau'r porth, a glafoerio hyd ei farf.

14. Ac meddai Achis wrth ei weision, “Gallwch weld bod y dyn yn wallgof; pam y daethoch ag ef ataf fi?

15. A wyf yn brin o ynfydion, fel eich bod yn dod â hwn o'm blaen i ynfydu? A ddaw hwn i'm tŷ?”

1 Samuel 21