1. Aeth Dafydd i Nob at yr offeiriad Ahimelech. Daeth yntau i'w gyfarfod dan grynu, a gofyn iddo, “Pam yr wyt ti ar dy ben dy hun, heb neb gyda thi?”
2. Ac meddai Dafydd wrth yr offeiriad Ahimelech, “Y brenin sydd wedi rhoi gorchymyn imi, a dweud wrthyf, ‘Nid yw neb i wybod dim pam yr anfonais di, na beth a orchmynnais iti.’ Ac yr wyf wedi rhoi cyfarwyddyd i'r milwyr ifainc i'm cyfarfod yn y fan a'r fan.
3. Yn awr, beth sydd gennyt wrth law? Gad imi gael pum torth, neu'r hyn sydd gennyt.”
4. Atebodd yr offeiriad, “Nid oes gennyf ddim bara cyffredin wrth law; ond y mae yma fara cysegredig—os yw'r milwyr wedi ymgadw'n llwyr oddi wrth wragedd.”
5. Atebodd Dafydd, “Yn wir y mae'n hen arfer gennym ymgadw oddi wrth wragedd pan fyddaf yn cychwyn ar ymgyrch, fel bod arfau'r milwyr yn gysegredig; ac os yw felly ar siwrnai gyffredin, pa faint mwy y bydd yr arfau'n gysegredig heddiw?”
6. Yna fe roddodd yr offeiriad iddo'r bara cysegredig, gan nad oedd yno ddim ond y bara gosod oedd wedi ei symud o bresenoldeb yr ARGLWYDD, er mwyn gosod bara ffres ar ddiwrnod y cyfnewid.