8. Y mae'n codi'r gwan o'r llwchac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen,i'w osod i eistedd gyda phendefigionac i etifeddu cadair anrhydedd;canys eiddo'r ARGLWYDD golofnau'r ddaear,ac ef a osododd y byd arnynt.
9. Y mae'n gwarchod camre ei ffyddloniaid,ond y mae'r drygionus yn tewi mewn tywyllwch;canys nid trwy rym y mae trechu.
10. Dryllir y rhai sy'n ymryson â'r ARGLWYDD;tarana o'r nef yn eu herbyn.Yr ARGLWYDD a farna eithafoedd daear;fe rydd nerth i'w frenina dyrchafu pen ei eneiniog.”
11. Yna dychwelodd Elcana adref i Rama, ond yr oedd y bachgen yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron yr offeiriad Eli.
12. Yr oedd meibion Eli yn wŷr ofer, heb gydnabod yr ARGLWYDD.
13. Arfer yr offeiriaid gyda'r bobl, pan fyddai unrhyw un yn offrymu aberth, oedd hyn: tra oeddent yn berwi'r cig, dôi gwas yr offeiriad gyda fforch deirpig yn ei law
14. a'i tharo i mewn i'r badell, neu'r sosban, neu'r crochan neu'r llestr; yna cymerai'r offeiriad beth bynnag a ddygai'r fforch i fyny. Felly y gwneid yn Seilo gyda'r holl Israeliaid a ddôi yno.
15. Ond dechreuodd gwas yr offeiriad ddod cyn llosgi'r braster hyd yn oed, a dweud wrth y dyn oedd yn offrymu, “Rho gig i'w rostio i'r offeiriad; ni chymer gennyt gig wedi ei ferwi ond cig ffres.”
16. Os dywedai'r dyn, “Gad iddynt o leiaf losgi'r braster yn gyntaf, yna cymer iti beth a fynni,” atebai, “Na, dyro ar unwaith, neu fe'i cymeraf trwy rym.”
17. Yr oedd pechod y llanciau yn fawr iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, oherwydd yr oedd dynion yn ffieiddio offrwm yr ARGLWYDD.
18. Yr oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu gerbron yr ARGLWYDD mewn effod liain.
19. Byddai ei fam yn gwneud mantell fach iddo, ac yn dod â hi iddo bob blwyddyn pan ddôi gyda'i gŵr i offrymu'r aberth blynyddol.
20. A byddai Eli'n bendithio Elcana a'i wraig cyn iddynt fynd adref, ac yn dweud, “Rhodded yr ARGLWYDD blant iti o'r wraig hon yn lle'r un a fenthyciwyd i'r ARGLWYDD.”
21. Ac fe ymwelodd yr ARGLWYDD â Hanna, a beichiogodd a geni tri mab a dwy ferch. Tyfodd y bachgen Samuel yn nhŷ'r ARGLWYDD.
22. Pan oedd Eli'n hen iawn, clywodd am y cwbl a wnâi ei feibion drwy Israel gyfan, a'u bod yn gorwedd gyda'r gwragedd oedd yn gweini wrth ddrws pabell y cyfarfod.
23. Dywedodd wrthynt, “Pam y gwnewch bethau fel hyn? Rwy'n clywed gair drwg amdanoch gan y bobl yma i gyd.
24. Na'n wir, fy meibion, nid da yw'r hanes y clywaf bobl Dduw yn ei ledaenu.
25. Os yw un yn pechu yn erbyn rhywun arall, y mae Duw yn ganolwr, ond os pecha rhywun yn erbyn yr ARGLWYDD, at bwy y gellir apelio?” Ond gwrthod gwrando ar eu tad a wnaethant, oherwydd ewyllys yr ARGLWYDD oedd eu lladd.
26. Ac yr oedd y bachgen Samuel yn dal i gynyddu ac ennill ffafr gyda Duw a'r bobl.
27. Daeth gŵr Duw at Eli a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Oni'm datguddiais fy hun i'th dylwyth pan oeddent yn yr Aifft yn gaethion yn nhŷ Pharo?
28. Fe'u dewisais o holl lwythau Israel i fod yn offeiriaid i mi, i offrymu ar fy allor a llosgi arogldarth a gwisgo effod o'm blaen, a rhoddais i'th dylwyth holl offrymau llosg yr Israeliaid.