1 Samuel 19:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Mynegwyd i Saul, “Y mae Dafydd yn Naioth ger Rama.”

20. Anfonodd Saul negeswyr i ddal Dafydd, ond pan welsant dwr o broffwydi'n proffwydo, a Samuel yn sefyll yno'n bennaeth arnynt, disgynnodd ysbryd Duw arnynt ac aethant hwythau i broffwydo.

21. Pan fynegwyd hyn i Saul, anfonodd negeswyr eraill, ond aethant hwythau i broffwydo hefyd; a phan anfonodd Saul negeswyr am y trydydd tro, aeth y rheini hefyd i broffwydo.

22. Yna fe aeth ef ei hun i Rama, ac wedi iddo gyrraedd y pydew mawr yn Secu a holi ple'r oedd Samuel a Dafydd, dywedodd rhywun eu bod yn Naioth ger Rama.

23. Wrth iddo fynd yno i Naioth ger Rama, disgynnodd ysbryd Duw arno yntau hefyd, ac aeth yn ei flaen dan broffwydo nes dod i Naioth ger Rama.

24. Yno fe ddiosgodd yntau ei ddillad a phroffwydo gerbron Samuel; a gorweddodd yn noeth drwy'r dydd a'r noson honno. Dyna pam y dywedir, “A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?”

1 Samuel 19