1 Samuel 19:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Pan ddaeth y negeswyr, dyna lle'r oedd y teraffim yn y gwely, gyda chlustog o flew geifr wrth y pen.

17. Meddai Saul wrth Michal, “Pam y twyllaist fi fel hyn, a gollwng fy ngelyn yn rhydd i ddianc?” Atebodd Michal, “Ef a ddywedodd wrthyf, ‘Gollwng fi, neu mi'th laddaf.’ ”

18. Ffodd Dafydd a dianc i Rama at Samuel, ac adrodd wrtho'r cwbl a wnaeth Saul iddo. Yna aeth Samuel ac yntau, ac aros yn Naioth.

1 Samuel 19