1 Samuel 19:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Pan anfonodd Saul negeswyr i ddal Dafydd, dywedodd hi, “Y mae'n glaf.”

15. Ond anfonodd Saul y negeswyr yn ôl i chwilio am Ddafydd gyda'r gorchymyn, “Dewch ag ef ataf yn ei wely, imi ei ladd.”

16. Pan ddaeth y negeswyr, dyna lle'r oedd y teraffim yn y gwely, gyda chlustog o flew geifr wrth y pen.

17. Meddai Saul wrth Michal, “Pam y twyllaist fi fel hyn, a gollwng fy ngelyn yn rhydd i ddianc?” Atebodd Michal, “Ef a ddywedodd wrthyf, ‘Gollwng fi, neu mi'th laddaf.’ ”

18. Ffodd Dafydd a dianc i Rama at Samuel, ac adrodd wrtho'r cwbl a wnaeth Saul iddo. Yna aeth Samuel ac yntau, ac aros yn Naioth.

19. Mynegwyd i Saul, “Y mae Dafydd yn Naioth ger Rama.”

1 Samuel 19