1 Samuel 17:57-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

57. Felly pan gyrhaeddodd Dafydd yn ôl wedi iddo ladd y Philistiad, cymerodd Abner ef a'i ddwyn at Saul gyda phen y Philistiad yn ei law.

58. Gofynnodd Saul, “Mab pwy wyt ti, fachgen?” A dywedodd Dafydd, “Mab dy was Jesse o Fethlehem.”

1 Samuel 17