14. Dafydd oedd yr ieuengaf. Aeth y tri hynaf i ganlyn Saul;
15. ond byddai Dafydd yn mynd a dod oddi wrth Saul i fugeilio defaid ei dad ym Methlehem.
16. Bob bore a hwyr am ddeugain diwrnod bu'r Philistiad yn dod ac yn sefyll i herio.
17. Dywedodd Jesse wrth ei fab Dafydd, “Cymer effa o'r crasyd yma i'th frodyr, a'r deg torth hyn, a brysia â hwy i'r gwersyll at dy frodyr.
18. Dos â'r deg cosyn gwyn yma i'r swyddog, ac edrych sut y mae hi ar dy frodyr, a thyrd â rhyw arwydd yn ôl oddi wrthynt.”
19. Yr oedd Saul a hwythau ac Israel gyfan yn nyffryn Ela yn ymladd â'r Philistiaid.
20. Trannoeth cododd Dafydd yn fore, a gadael y praidd gyda gofalwr, a chymryd ei bac a mynd fel yr oedd Jesse wedi gorchymyn iddo. Cyrhaeddodd y gwersyll fel yr oedd y fyddin yn mynd i'w rhengoedd ac yn bloeddio'r rhyfelgri.
21. Yr oedd Israel a'r Philistiaid wedi trefnu eu lluoedd, reng am reng.
22. Gadawodd Dafydd ei bac gyda gofalwr y gwersyll, a rhedeg i'r rheng a mynd i ofyn sut yr oedd ei frodyr.
23. Tra oedd yn ymddiddan â hwy, dyna'r heriwr o'r enw Goliath, y Philistiad o Gath, yn dod i fyny o rengoedd y Philistiaid ac yn llefaru yng nghlyw Dafydd yr un geiriau ag o'r blaen.
24. Pan welodd yr Israeliaid y dyn, ffoesant i gyd oddi wrtho mewn ofn,
25. a dweud, “A welwch chwi'r dyn yma sy'n dod i fyny? I herio Israel y mae'n dod. Pe byddai unrhyw un yn ei ladd, byddai'r brenin yn ei wneud yn gyfoethog iawn, ac yn rhoi ei ferch iddo, ac yn rhoi rhyddfraint Israel i'w deulu.”