1 Samuel 17:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Casglodd y Philistiaid eu lluoedd i ryfel, ac ymgynnull yn Socho, a oedd yn perthyn i Jwda, a gosod eu gwersyll rhwng Socho ac Aseca yn Effes-dammim.

2. Ymgynullodd Saul a'r Israeliaid hefyd, a gwersyllu yn nyffryn Ela a pharatoi i frwydro yn erbyn y Philistiaid.

3. Safai'r Philistiaid ar dir uchel o un tu, ac Israel ar dir uchel o'r tu arall, gyda dyffryn rhyngddynt.

4. O wersyll y Philistiaid daeth allan heriwr o'r enw Goliath, dyn o Gath, ac yn chwe chufydd a rhychwant o daldra.

5. Yr oedd ganddo helm bres am ei ben, ac yr oedd wedi ei wisgo mewn llurig emog o bres, yn pwyso pum mil o siclau.

6. Yr oedd coesarnau pres am ei goesau a chrymgledd pres rhwng ei ysgwyddau.

7. Yr oedd paladr ei waywffon fel carfan gwehydd, a'i blaen yn chwe chan sicl o haearn. Yr oedd cludydd tarian yn cerdded o'i flaen.

8. Safodd Goliath a gweiddi ar rengoedd Israel a dweud wrthynt, “Pam y dewch allan yn rhengoedd i frwydro? Onid Philistiad wyf fi, a chwithau'n weision i Saul? Dewiswch un ohonoch i ddod i lawr ataf fi.

9. Os medr ef ymladd â mi a'm trechu, fe fyddwn ni yn weision i chwi; ond os medraf fi ei drechu ef, chwi fydd yn weision i ni, ac yn ein gwasanaethu.”

10. Ychwanegodd y Philistiad, “Yr wyf fi heddiw yn herio rhengoedd Israel; dewch â gŵr, ynteu, inni gael ymladd â'n gilydd.”

1 Samuel 17