1 Samuel 14:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Os dywedant wrthym, ‘Arhoswch lle'r ydych nes y byddwn wedi dod atoch’, fe arhoswn lle byddwn heb fynd atynt.

10. Ond os dywedant, ‘Dewch i fyny atom’, yna awn i fyny, oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn eu rhoi yn ein llaw; a bydd hyn yn arwydd inni.”

11. Dangosodd y ddau ohonynt eu hunain i wylwyr y Philistiaid, a dywedodd y Philistiaid, “Dyma Hebreaid yn dod allan o'r tyllau lle buont yn cuddio.”

12. A gwaeddodd dynion yr wyliadwriaeth ar Jonathan a'i gludydd arfau, a dweud, “Dewch i fyny atom, i ni gael dangos rhywbeth i chwi.” Dywedodd Jonathan wrth ei gludydd arfau, “Tyrd i fyny ar f'ôl i, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi yn llaw Israel.”

1 Samuel 14