1 Samuel 14:40-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Yna dywedodd wrth yr holl Israeliaid, “Safwch chwi ar un ochr, a minnau a'm mab Jonathan ar yr ochr arall.” A dywedodd y bobl wrth Saul, “Gwna fel y gweli'n dda.”

41. Dywedodd Saul wrth yr ARGLWYDD, Duw Israel, “Pam nad atebaist dy was heddiw? Os yw'r camwedd hwn ynof fi neu yn fy mab Jonathan, O ARGLWYDD Dduw Israel, rho Wrim; ond os yw'r camwedd hwn yn dy bobl Israel, rho Twmim.” Daliwyd Jonathan a Saul, ac aeth Israel yn rhydd.

42. Dywedodd Saul, “Bwriwch goelbren rhyngof fi a'm mab Jonathan.” A daliwyd Jonathan.

1 Samuel 14