1 Samuel 11:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ymhen tua mis aeth Nahas yr Ammoniad i fyny a gwersyllu yn erbyn Jabes-gilead. Dywedodd holl wŷr Jabes wrth Nahas, “Gwna gytundeb â ni, ac fe'th wasanaethwn.”

2. Atebodd Nahas yr Ammoniad, “Ar un amod y gwnaf gytundeb â chwi—bod tynnu llygad de pob un ohonoch; a gosodaf hyn yn sarhad ar Israel gyfan.”

3. Yna meddai henuriaid Jabes wrtho, “Rho inni egwyl o wythnos i anfon negeswyr drwy derfynau Israel i gyd, ac os na chawn neb i'n gwaredu, down allan atat.”

1 Samuel 11