1 Samuel 10:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Dos i lawr o'm blaen i Gilgal, a dof finnau atat i offrymu poethoffrymau a heddoffrymau. Aros wythnos amdanaf, ac yna dangosaf iti beth i'w wneud.”

9. Wedi i Saul droi a gadael Samuel, newidiodd Duw ei galon ef, a digwyddodd yr holl arwyddion hyn yr un diwrnod.

10. Pan ddaethant i Gibea, yr oedd y fintai o broffwydi yno yn dod i'w gyfarfod; disgynnodd ysbryd Duw arno, a dechreuodd broffwydo yn eu plith.

11. Pan welodd y bobl oedd yn ei adnabod gynt ei fod yn proffwydo gyda'r proffwydi, dywedasant wrth ei gilydd, “Beth yw hyn sydd wedi digwydd i fab Cis? A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?”

12. Ac ychwanegodd un oedd yno, “A phwy yw eu tad?” Dyna sut y daeth y ddihareb, “A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?”

1 Samuel 10