1 Samuel 10:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Pan ddigwydd yr arwyddion hyn i ti, gwna yn ôl dy gyfle, oherwydd y mae Duw gyda thi.

8. Dos i lawr o'm blaen i Gilgal, a dof finnau atat i offrymu poethoffrymau a heddoffrymau. Aros wythnos amdanaf, ac yna dangosaf iti beth i'w wneud.”

9. Wedi i Saul droi a gadael Samuel, newidiodd Duw ei galon ef, a digwyddodd yr holl arwyddion hyn yr un diwrnod.

10. Pan ddaethant i Gibea, yr oedd y fintai o broffwydi yno yn dod i'w gyfarfod; disgynnodd ysbryd Duw arno, a dechreuodd broffwydo yn eu plith.

11. Pan welodd y bobl oedd yn ei adnabod gynt ei fod yn proffwydo gyda'r proffwydi, dywedasant wrth ei gilydd, “Beth yw hyn sydd wedi digwydd i fab Cis? A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?”

12. Ac ychwanegodd un oedd yno, “A phwy yw eu tad?” Dyna sut y daeth y ddihareb, “A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?”

13. Pan orffennodd broffwydo, aeth i'r uchelfa.

14. Gofynnodd ewythr Saul iddo ef a'i was, “Ymhle y buoch?” Atebodd, “Yn chwilio am yr asennod; ac wedi inni fethu eu gweld, aethom at Samuel.”

15. Ac meddai ewythr Saul, “Dywed wrthyf, ynteu, beth a ddywedodd Samuel wrthych.”

16. Dywedodd Saul wrth ei ewythr, “Sicrhaodd ni fod yr asennod wedi eu cael.” Ond ni soniodd ddim wrtho am yr hyn a ddywedodd Samuel ynglŷn â'r frenhiniaeth.

1 Samuel 10