1 Pedr 5:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yn yr un modd, chwi wŷr ifainc, ymostyngwch i'r henuriaid. A phawb ohonoch, gwisgwch amdanoch ostyngeiddrwydd yng ngwasanaeth eich gilydd, oherwydd, fel y dywed yr Ysgrythur:“Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion,ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras.”

6. Ymddarostyngwch, gan hynny, dan law gadarn Duw, fel y bydd iddo ef eich dyrchafu pan ddaw'r amser.

7. Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.

8. Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu.

1 Pedr 5