1 Pedr 1:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Fel plant ufudd, peidiwch â chydymffurfio â'r chwantau y buoch yn eu dilyn gynt yn eich anwybodaeth;

15. eithr fel yr Un Sanctaidd a'ch galwodd chwi, byddwch chwithau yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad.

16. Oherwydd y mae'n ysgrifenedig, “Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi yn sanctaidd.”

17. Ac os fel Tad yr ydych yn galw ar yr hwn sydd yn barnu'n ddi-dderbyn-wyneb yn ôl gwaith pob un, ymddygwch mewn parchedig ofn dros amser eich alltudiaeth.

18. Gwyddoch nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych,

19. ond â gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist.

1 Pedr 1