1 Pedr 1:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Datguddiwyd i'r proffwydi hyn nad arnynt eu hunain ond arnoch chwi yr oeddent yn gweini wrth sôn am y pethau sydd yn awr wedi eu cyhoeddi i chwi gan y rhai a bregethodd yr Efengyl i chwi drwy nerth yr Ysbryd Glân, a anfonwyd o'r nef. Pethau yw'r rhain y mae angylion yn chwenychu edrych arnynt.

13. Gan hynny, rhowch fin ar eich meddwl, ymddisgyblwch, a gosodwch eich gobaith yn gyfan gwbl ar y gras sy'n cael ei ddwyn atoch pan ddatguddir Iesu Grist.

14. Fel plant ufudd, peidiwch â chydymffurfio â'r chwantau y buoch yn eu dilyn gynt yn eich anwybodaeth;

1 Pedr 1