1 Macabeaid 9:53-55 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

53. Cymerodd feibion penaethiaid y wlad yn wystlon, a'u gosod dan warchodaeth yn y gaer.

54. Yn y flwyddyn 153, yn yr ail fis, gorchmynnodd Alcimus dynnu i lawr fur cyntedd mewnol y deml. Distrywiodd felly waith y proffwydi. Ond yr union adeg y dechreuodd ei dynnu i lawr,

55. cafodd Alcimus drawiad a rhwystrwyd ei weithgarwch. Amharwyd ar ei leferydd, aeth yn ddiffrwyth, ac ni fedrai mwy lefaru gair na rhoi gorchmynion ynghylch ei stâd.

1 Macabeaid 9