51. Gosododd warchodlu ynddynt i aflonyddu ar Israel.
52. Cadarnhaodd hefyd dref Bethswra a Gasara a'r gaer yn Jerwsalem, a gosod ynddynt luoedd a chyflenwad o fwyd.
53. Cymerodd feibion penaethiaid y wlad yn wystlon, a'u gosod dan warchodaeth yn y gaer.
54. Yn y flwyddyn 153, yn yr ail fis, gorchmynnodd Alcimus dynnu i lawr fur cyntedd mewnol y deml. Distrywiodd felly waith y proffwydi. Ond yr union adeg y dechreuodd ei dynnu i lawr,
55. cafodd Alcimus drawiad a rhwystrwyd ei weithgarwch. Amharwyd ar ei leferydd, aeth yn ddiffrwyth, ac ni fedrai mwy lefaru gair na rhoi gorchmynion ynghylch ei stâd.
56. A bu farw Alcimus y pryd hwnnw mewn poen dirdynnol.
57. Pan welodd Bacchides fod Alcimus wedi marw dychwelodd at y brenin, a chafodd gwlad Jwda lonydd am ddwy flynedd.
58. Yna ymgynghorodd yr holl rai digyfraith gan ddweud, “Edrychwch, y mae Jonathan a'i wŷr yn llawn hyder ac yn trigo mewn llonyddwch; yn awr felly gadewch i ni gael Bacchides yn ôl, ac fe'u deil ef hwy i gyd mewn un noson.”
59. Yna aethant a chydymgynghori ag ef.
60. Cychwynnodd yntau ar ei ffordd gyda llu mawr, a gyrrodd lythyrau yn ddirgel at ei holl gefnogwyr yn Jwdea, yn eu hannog i ddal Jonathan a'i wŷr. Ond ni lwyddasant, oherwydd daeth eu bwriad yn hysbys.