1 Macabeaid 9:25-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Dewisodd Bacchides y rhai annuwiol a'u gosod i lywodraethu'r wlad.

26. Buont yn ceisio ac yn chwilio am gyfeillion Jwdas, a'u dwyn at Bacchides. Dialodd yntau arnynt a'u sarhau.

27. Daeth gorthrymder mawr ar Israel, y fath na fu er y dydd pan beidiodd proffwyd ag ymddangos yn eu plith.

28. Yna ymgasglodd holl gyfeillion Jwdas a dweud wrth Jonathan,

29. “Er pan fu farw dy frawd Jwdas ni fu gŵr tebyg iddo i fynd i mewn ac allan yn erbyn ein gelynion ac yn erbyn Bacchides, ac i ddelio â'r gelynion o blith ein cenedl ni.

30. Yn awr, gan hynny, yr ydym ni heddiw wedi dy ddewis di i fod yn llywodraethwr ac yn arweinydd i ni yn ei le ef, i ymladd ein rhyfel.”

31. A derbyniodd Jonathan yr adeg honno yr arweinyddiaeth, a chymryd lle Jwdas ei frawd.

32. Pan ddeallodd Bacchides hyn ceisiodd ei ladd.

33. Cafodd Jonathan a'i frawd Simon a phawb oedd gydag ef wybod am hyn, a ffoesant i anialwch Tecoa, a gwersyllu ar lan llyn Asffar.

34. Clywodd Bacchides am hyn ar y Saboth, ac aeth ef a'i holl fyddin dros yr Iorddonen.

35. Anfonodd Jonathan ei frawd yn arweinydd y dyrfa, i ddeisyf ar ei gyfeillion y Nabateaid am gael gadael yn eu gofal hwy yr eiddo sylweddol oedd ganddynt.

1 Macabeaid 9