1 Macabeaid 9:21-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. “Pa fodd y cwympodd y cadarn,gwaredwr Israel!”

22. Am weddill gweithredoedd Jwdas—y rhyfeloedd, a'r gorchestion a wnaeth, a'i fawredd—ni chroniclwyd mohonynt, oherwydd tra lluosog oeddent.

23. Wedi marwolaeth Jwdas daeth y rhai digyfraith yn holl derfynau Israel allan i'r amlwg, ac ailymddangosodd yr holl weithredwyr anghyfiawnder.

24. Yn y dyddiau hynny bu newyn mawr iawn, a gwrthgiliodd y wlad gyda hwy.

25. Dewisodd Bacchides y rhai annuwiol a'u gosod i lywodraethu'r wlad.

26. Buont yn ceisio ac yn chwilio am gyfeillion Jwdas, a'u dwyn at Bacchides. Dialodd yntau arnynt a'u sarhau.

27. Daeth gorthrymder mawr ar Israel, y fath na fu er y dydd pan beidiodd proffwyd ag ymddangos yn eu plith.

28. Yna ymgasglodd holl gyfeillion Jwdas a dweud wrth Jonathan,

1 Macabeaid 9