1 Macabeaid 9:13-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Ysgydwyd y ddaear gan sŵn y byddinoedd, a bu brwydro clòs o fore hyd hwyr.

14. Gwelodd Jwdas fod Bacchides a grym ei fyddin ar y dde, ac ymgasglodd y dewr o galon i gyd ato.

15. Drylliwyd adran dde y gelyn ganddynt, ac erlidiodd Jwdas hwy hyd at Fynydd Asotus.

16. Pan welodd gwŷr yr asgell chwith fod yr asgell dde wedi ei dryllio, troesant i ymlid Jwdas a'i wŷr o'r tu ôl iddynt.

17. Poethodd y frwydr, a syrthiodd llawer wedi eu clwyfo o'r naill ochr a'r llall.

18. Syrthiodd Jwdas yntau, ond ffoes y lleill.

19. Cymerodd Jonathan a Simon eu brawd Jwdas a'i gladdu ym meddrod ei hynafiaid yn Modin.

20. Wylasant ar ei ôl; gwnaeth holl Israel alar mawr amdano, a buont yn galarnadu am ddyddiau lawer, gan ddweud,

21. “Pa fodd y cwympodd y cadarn,gwaredwr Israel!”

22. Am weddill gweithredoedd Jwdas—y rhyfeloedd, a'r gorchestion a wnaeth, a'i fawredd—ni chroniclwyd mohonynt, oherwydd tra lluosog oeddent.

23. Wedi marwolaeth Jwdas daeth y rhai digyfraith yn holl derfynau Israel allan i'r amlwg, ac ailymddangosodd yr holl weithredwyr anghyfiawnder.

24. Yn y dyddiau hynny bu newyn mawr iawn, a gwrthgiliodd y wlad gyda hwy.

25. Dewisodd Bacchides y rhai annuwiol a'u gosod i lywodraethu'r wlad.

26. Buont yn ceisio ac yn chwilio am gyfeillion Jwdas, a'u dwyn at Bacchides. Dialodd yntau arnynt a'u sarhau.

27. Daeth gorthrymder mawr ar Israel, y fath na fu er y dydd pan beidiodd proffwyd ag ymddangos yn eu plith.

1 Macabeaid 9