1 Macabeaid 9:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Nesaodd y fyddin yn ddwy adran gan seinio'r utgyrn. Canodd gwŷr Jwdas hwythau hefyd eu hutgyrn.

13. Ysgydwyd y ddaear gan sŵn y byddinoedd, a bu brwydro clòs o fore hyd hwyr.

14. Gwelodd Jwdas fod Bacchides a grym ei fyddin ar y dde, ac ymgasglodd y dewr o galon i gyd ato.

15. Drylliwyd adran dde y gelyn ganddynt, ac erlidiodd Jwdas hwy hyd at Fynydd Asotus.

16. Pan welodd gwŷr yr asgell chwith fod yr asgell dde wedi ei dryllio, troesant i ymlid Jwdas a'i wŷr o'r tu ôl iddynt.

17. Poethodd y frwydr, a syrthiodd llawer wedi eu clwyfo o'r naill ochr a'r llall.

18. Syrthiodd Jwdas yntau, ond ffoes y lleill.

1 Macabeaid 9