1 Macabeaid 9:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan glywodd Demetrius fod Nicanor a'i lu wedi syrthio mewn brwydr, anfonodd Bacchides ac Alcimus eilwaith i wlad Jwda, ac asgell dde ei fyddin gyda hwy.

2. Teithiasant ar hyd y ffordd sy'n arwain i Gilgal a gwersyllu gyferbyn â Mesaloth yn Arbela. Cipiasant hi a lladd llawer o bobl.

3. Ym mis cyntaf y flwyddyn 152 gwersyllasant gyferbyn â Jerwsalem,

4. a mynd yn eu blaen oddi yno i Berea gydag ugain mil o wŷr traed a dwy fil o wŷr meirch.

5. Yr oedd Jwdas eisoes yn gwersyllu yn Elasa, a thair mil o wŷr dethol gydag ef.

6. Pan welsant fod rhifedi lluoedd y gelyn yn lluosog, dychrynasant yn ddirfawr; a gwrthgiliodd llawer o'r gwersyll, heb adael dim ond wyth cant ohonynt.

7. Pan welodd Jwdas fod ei fyddin wedi gwrthgilio, dan bwysau'r brwydro yn ei erbyn, torrodd ei galon, oherwydd nid oedd ganddo amser i'w hailgynnull.

1 Macabeaid 9