1 Macabeaid 8:20-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. “Jwdas, a elwir hefyd Macabeus, a'i frodyr a phobl yr Iddewon a'n hanfonodd ni atoch i sefydlu cynghrair a heddwch gyda chwi, er mwyn cael ein cofrestru'n gynghreiriaid a chyfeillion ichwi.”

21. Yr oedd yr awgrym yn dderbyniol ganddynt,

22. a dyma gopi o'r llythyr a ysgrifenasant yn ateb, ar lechi pres, a'i anfon i Jerwsalem i fod gyda'r Iddewon yno yn goffâd o heddwch a chynghrair:

23. “Pob llwyddiant i'r Rhufeiniaid ac i genedl yr Iddewon ar fôr a thir yn dragywydd, a phell y bo cleddyf a gelyn oddi wrthynt.

24. Os daw rhyfel yn gyntaf i Rufain neu i un o'u cynghreiriaid o fewn eu holl ymerodraeth,

25. bydd cenedl yr Iddewon yn eu cefnogi fel cynghreiriaid o lwyrfryd calon, fel y bydd yr achlysur yn gofyn ganddynt.

26. Nid ydynt i roi na darparu ymborth, arfau, arian, na llongau i neb fydd yn mynd i ryfel yn eu herbyn; felly yr ordeiniodd Rhufain. Y maent i gadw rhwymedigaethau heb dderbyn unrhyw iawndal.

27. Yn yr un modd os digwydd rhyfel yn gyntaf yn erbyn cenedl yr Iddewon, y mae'r Rhufeiniaid i'w cefnogi fel cynghreiriaid yn ewyllysgar, fel y bydd yr achlysur yn gofyn ganddynt.

28. Ni roddir ymborth, arfau, arian, na llongau i'r gelynion; felly yr ordeiniodd Rhufain. Cedwir y rhwymedigaethau hyn heb ddim twyll.

29. “Ar yr amodau hyn felly y mae'r Rhufeiniaid wedi gwneud cytundeb â phobl yr Iddewon.

30. Ond heblaw'r amodau hyn, os bydd y naill neu'r llall yn dymuno ychwanegu neu ddirymu rhywbeth, cânt wneud hynny o'u gwirfodd; bydd unrhyw ychwanegiad neu ddirymiad yn ddilys.

31. “Ynglŷn â'r drygau y mae'r Brenin Demetrius yn eu gwneud i'r Iddewon, yr ydym wedi ysgrifennu ato fel hyn: ‘Pam y gosodaist dy iau mor drwm ar ein cyfeillion a'n cynghreiriaid yr Iddewon?

1 Macabeaid 8