17. Felly dewisodd Jwdas Ewpolemus fab Ioan, fab Accos, a Jason fab Eleasar, a'u hanfon i Rufain er mwyn sefydlu cyfeillgarwch a chynghrair,
18. a'u cael i godi'r iau oddi arnynt; oherwydd gwelsant fod teyrnas y Groegiaid yn llwyr gaethiwo Israel.
19. Teithiasant i Rufain, taith bell iawn, a mynd i mewn i'r senedd-dy a llefaru fel hyn:
20. “Jwdas, a elwir hefyd Macabeus, a'i frodyr a phobl yr Iddewon a'n hanfonodd ni atoch i sefydlu cynghrair a heddwch gyda chwi, er mwyn cael ein cofrestru'n gynghreiriaid a chyfeillion ichwi.”
21. Yr oedd yr awgrym yn dderbyniol ganddynt,
22. a dyma gopi o'r llythyr a ysgrifenasant yn ateb, ar lechi pres, a'i anfon i Jerwsalem i fod gyda'r Iddewon yno yn goffâd o heddwch a chynghrair:
23. “Pob llwyddiant i'r Rhufeiniaid ac i genedl yr Iddewon ar fôr a thir yn dragywydd, a phell y bo cleddyf a gelyn oddi wrthynt.
24. Os daw rhyfel yn gyntaf i Rufain neu i un o'u cynghreiriaid o fewn eu holl ymerodraeth,
25. bydd cenedl yr Iddewon yn eu cefnogi fel cynghreiriaid o lwyrfryd calon, fel y bydd yr achlysur yn gofyn ganddynt.
26. Nid ydynt i roi na darparu ymborth, arfau, arian, na llongau i neb fydd yn mynd i ryfel yn eu herbyn; felly yr ordeiniodd Rhufain. Y maent i gadw rhwymedigaethau heb dderbyn unrhyw iawndal.
27. Yn yr un modd os digwydd rhyfel yn gyntaf yn erbyn cenedl yr Iddewon, y mae'r Rhufeiniaid i'w cefnogi fel cynghreiriaid yn ewyllysgar, fel y bydd yr achlysur yn gofyn ganddynt.
28. Ni roddir ymborth, arfau, arian, na llongau i'r gelynion; felly yr ordeiniodd Rhufain. Cedwir y rhwymedigaethau hyn heb ddim twyll.
29. “Ar yr amodau hyn felly y mae'r Rhufeiniaid wedi gwneud cytundeb â phobl yr Iddewon.